Tocynnau / Tickets:
£8 Oedolion / Adults
£5 Plant / Children
£20 Tocyn Teulu / Family Ticket

Ar werth yn / For sale at:
Cob Records, Porthmadog
Palas Print, Caernarfon
Parc Glynllifon
Ffôn / Tel: 08712 301 314

Datganiad i’r Wasg - Mai 2008

GŴYL YN DYCHWELYD I LYNLLIFON

Yn dilyn llwyddiant Gŵyl Gardd Goll y llynedd, mae’r trefnwyr yn falch o allu datgan y bydd yr wyl yn dychwelyd i Barc Glynllifon am yr eildro. Unwaith eto, bydd yr wyl yn rhoi cyfle i bobl o bob oed fwynhau cerddoriaeth gyfoes yn awyrgylch awyr agored unigryw amffitheatr lechi’r Parc.

Mae’r digwyddiad eisoes yn magu enw da ac yn hawlio’i le ar y calendr adloniant am yr haf. Y llynedd mynychodd bron i 500 o bobl yr wyl a phrofwyd bod diwrnod gwych i’w gael yn ardal Caernarfon os cewch gyfuniad o adloniant difyr, prisiau rhesymol a lleoliad godidog.

Mae arlwy gerddorol drawiadol wedi cael ei threfnu gan y ddau drefnydd, Dilwyn Llwyd a Gethin Evans, ill dau yn ffigurau amlwg yn y sin gerddorol Gymreig. O’r seren ryngwladol Euros Childs i’r ffefrynnau lleol Derwyddon Dr Gonzo ac o Fand Deiniolen i Gwyneth Glyn, bydd rhywbeth i bawb yn yr ardal, a dylai’r digwyddiad ddenu torf o rannau eraill o Gymru hefyd.

Meddai Dilwyn Llwyd: “Pan aethon ni ati i drefnu’r wyl y llynedd roedd gen i deimlad ym mêr fy esgyrn bod ‘na alw am ddigwyddiad amgen fel Gŵyl Gardd Goll yn ystod y dydd, lle nad oes unrhyw wahaniaethu o safbwynt oedran na chwaeth gerddorol. Mi ge’s i wefr enfawr o weld cymaint o bobl yn dod draw'r llynedd, yn aros drwy’r p’nawn ac yn ymlacio yn yr awyrgylch braf. Roedd hwn o ddifri yn un o uchafbwyntiau haf 2007 i fi a dwi’n edrych ‘mlaen yn arw i gael ailadrodd y llwyddiant eto eleni.”

Meddai Gethin Evans, ail hanner y tîm: “Mae’r amffitheatr yng Nglynllifon yn lleoliad arbennig ac yn hollol wych ar bnawn o haf. Mae ‘na hen ddigon o ddigwyddiadau gyda’r nos yn cael eu cynnal yn yr ardal ar gyfer mathau penodol o gynulleidfa, felly ‘rydan ni isho rhoi cyfle i deuluoedd a phobl o bob oed gael clywed rhywfaint o’r dalent gerddorol wych sydd ganddon ni yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydan ni’n gobeithio’n fawr y bydd pobl yn gwneud diwrnod ohoni.”

Aeth Dilwyn ymlaen i egluro: “Rydan ni jyst eisiau i bobl gael p’nawn grêt – a rhesymol ei bris – ac rydan ni’n hollol hyderus mai dyna gaiff pawb. Mi fydd y gerddoriaeth a’r lleoliad yn ffantastic ac felly mi edrychwn ymlaen at groesawu pawb draw i Gŵyl Gardd Goll eto eleni.”

Gŵyl Gardd Goll, Parc Glynllifon, 12pm-7pm – Sul 27 Gorffennaf 2008

DIWEDD

Nodiadau Golygyddol

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad dylid cysylltu â
Dwynwen Williams ar 01286 685213 / 07733 337140
neu drwy e-bostio dwynwen@atompr.com.


Press Release - May 2008

MUSIC FESTIVAL RETURNS TO GLYNLLIFON

After the success of last year’s Gŵyl Gardd Goll, the organisers are proud to announce that the festival is to return to Parc Glynllifon for its second year. The event – translated as ‘The Lost Garden Festival’ – will once again give people of all ages a chance to enjoy contemporary music in the unique open-air atmosphere of the Country Park’s slate amphitheatre.

The afternoon event is already gaining cult status and critical acclaim. Last year almost 500 people attended what turned out to be a fantastic, alternative day out in the Caernarfon area.

An impressive line-up of bands has been booked by the two organisers, Dilwyn Llwyd and Gethin Evans, both prominent figures in the Welsh music scene. From the internationally-renowned Euros Childs to local favourites Derwyddon Dr Gonzo and from Band Deiniolen to acoustic Gwyneth Glyn, the event will have something for everyone in this area, and should also draw crowds from other parts of Wales.

Dilwyn Llwyd said: “When we started organising the festival last year I had a gut feeling that there was room for an alternative daytime event like Gwyl Gardd Goll where there were no barriers in terms of age or musical taste. It gave me a real buzz to see so many people coming along on the day, staying all afternoon and chilling out to the vibe of it all. It really was a highlight of last summer for me and I can’t wait to repeat the success again this year.”

Gethin Evans, the second half of the team said: “The amphitheatre at Glynllifon is a brilliant venue and is absolutely fantastic on a summer afternoon. There are plenty of evening events being held in the area for certain crowds, so we want to offer families and people of all ages a chance to experience some of the great musical talent we have in Wales at the moment. We hope people will make a day out of it.”

Dilwyn Llwyd continued: “We just want people to have a great, affordable afternoon – and we are very confident that they will. The music and venue will be fantastic and we look forward to welcoming everybody to Gŵyl Gardd Goll again this year.”

Gŵyl Gardd Goll, Parc Glynllifon, 12pm-7pm – Sunday 27 July 2008

ENDS

Notes for Editors

For further information, photographs or interviews please contact:
Dwynwen Williams on 01286 685213 / 07733 337140
or e-mail dwynwen@atompr.com.

GALERI LUNIAU GŴYL 2007 / 2007 FESTIVAL PHOTO GALLERY

Hawlfraint / Copyright: Gerallt Llewelyn, 07836 760067

 
uh media