Jones Enwog

Tom Jones Syr Thomas Jones Woodward, OBE

Ganwyd ar y 7fed o Fedi ym 1940 yn Nhrefforest, ger Pontypridd yn Ne Cymru.

Rydym yn ei nabod orau fel Tom Jones; y canwr o Gymru sy’n hawlio’r llwyfan gyda’i lais cryf nodweddiadol!

Ei gân mwyaf llwyddianus oedd “The Green, Green Grass of Home” oedd yn Rhif Un yn Siart y Senglau, Nadolig 1966.

Rhyddhawyd ei albwm “Reload” yn 2000 gan gyrraedd brig y siartiau yn y DU ac fe werthodd dros 4miliwn o gopiau ledled y byd.



Dow Jones Dow Jones & Company

Cwmni wedi’i sefydlu yn yr Unol Daleithiau ers 1882, sy’n cyhoeddi gwybodaeth am fyd busnes a masnach.

Sefydlwyd y cwmni gan dri gohebydd - Charles Dow, Edward Jones a Charles Bergstresser.

Mae’r cwmni yn cynhyrchu’r ‘Wall Street Journal’ sy’n delio hefo newyddion busnes rhyngwladol yn ogystal â bod yn gyfrifol am amryw o weithgareddau’r farchnad stoc yn yr UDA.



David Bowie David Bowie (Ganwyd yn David Robert Jones ar yr 8fed o Ionawr 1947)

Canwr a chyfansoddwr o Loegr ac yn wyneb cyfarwydd inni fel actor mewn ffilmiau ac ar lwyfannau. Mae o hefyd yn artist gweledol.

Newidiodd ei enw perfformio er mwyn osgoi unrhyw ddryswch gyda Davy Jones o’r Monkees. Dewisiodd y cyfenw Bowie ar ôl yr arwr Alamo Jim Bowie a’r gyllell Bowie enwog.

Gwerthodd 136 o filiynau o albwms ac mae ymysg y deg uchaf o artistiaid a werthodd orau yn hanes pop yn y DU. Ef yw’r unig artist o’r DU i gael 10 albwm yn y 100 uchaf ar yr un pryd!



Catherine Zeta Jones Catherine Zeta Jones (Ganwyd ar y 25ain o Fedi 1969 yn Treboeth, Llangyfelach, Abertawe)

Actores Gymraeg sydd wedi cipio gwobr yr Academi am ei gwaith actio.

Y ffilm gyntaf iddi ymddangos ynddi oedd ffilm Phillipe de Broca ‘1001 Nights’. Chwaraeodd ran Sheherazade.

Enillodd Oscar am ‘Best Supporting Actress’ am ei rhan yn "Chicago" yn 2002.

Mae hi’n briod efo Michael Douglas, ac mae ganddynt ddau o blant bach, Dylan Michael a Carys Zeta.



Grace Jones Grace Jones (Ganwyd fel Grace Mendoza ar y 19fed o Fai, 1948 yn ‘Spanish Town’ yn Jamaica)

Mae hi’n fodel, yn gantores ac yn actores adnabyddus.

Ar ol symud i’r Unol Daleithiau gyda’i rhieni a’i hefaill, fe astudiodd theatr ym Mhrifysgol Syracuse, Efrog Newydd cyn llwyddo fel model ym Mharis.

Mae hi wedi llwyddo i gyrraedd Rhif un gyda phump o’i senglau yn y siart ddawns yn yr UD gan gynnwys ‘Slave to the Rhythm’.

Fe ymddangosodd hi fel ‘May Day’ yn y ffilm Bond ‘A View to a Kill’ ym 1985.

Newyddion

Y Wasg