Beth?

Mae S4C yn gobeithio llenwi Canolfan Mileniwm Cymru – sy’n dal 1600 o bobl – gyda chynulleidfa o Jonesiaid ar gyfer sioe gyda llu o Jonesiaid enwog, er mwyn torri’r record, a ddelir ar hyn o bryd gan Sweden ar gyfer criw o 583 o bobl yn rhannu’r cyfenw Norberg.

Yn ystod y sioe, bydd y gynulleidfa yn cael ei diddanu gan berfformiadau cerddoriaeth, dawns a chomedi, ymddangosiadau gan westeion arbennig a chystadlaethau. Bydd swyddogion Guinness hefyd yn bresennol i oruchwylio’r ymgais i dorri’r record.

Bydd mwy o fanylion am yr artistiaid fydd yn cymeryd rhan yn ymddangos ar ein tudalen newyddion yn fuan.


Sut i gyrraedd

Mae’r Cyngerdd yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Car: Gadewch yr M4 ar gyffordd 33 (Arwydd (Gorllewin) Caerdydd, Y Barri, Penarth, Maes Awyr Caerdydd a’r A4232). Ymunwch â’r A4232 a pharhewch am tua 9.3 milltir. Gadewch yr A4232 cyn Twnel Butetown a dilynwch yr arwyddion am Techniquest. Parhewch ar hyd Stryd Stuart a throwch i’r dde wrth y set gyntaf o oleuadau traffig. Mae Canolfan Mileniwm Cymru o’ch blaen.

Tren: Mae gwasanaeth cyson o Orsaf Heol y Frenhines Caerdydd a gorsaf Bae Caerdydd.


Tocynnau

Mae tocynnau ar gyfer noson Jones Jones Jones ar werth, gyda blaenoriaeth i’r Jonesiaid, o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 08700 40 2000.

£15 yw pris y tocynnau, gyda gostyngiadau o £10 a £5. Bydd yn rhaid i aelodau Jones y gynulleidfa ddod â phasport neu drwydded yrru fel prawf ar y noson. Nid yw enwau cyn priodi neu enwau â chysylltnod yn cyfrif.

Newyddion

Y Wasg