Newyddion a Digwyddiadau

Y CYFENW JONES YN TORRI RECORD BYD

Jonesiaid yn torri record byd.
Jonesiaid yn torri record byd.

06/11/2006

Mae Cymru gyfan a phob Jones yn y byd yn dathlu ar ôl creu Record Guinness y Byd newydd ar gyfer casglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl â’r un cyfenw.

Fe grëwyd y record newydd gan 1,224 o Jonesiaid nos Wener, 3 Tachwedd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd fel rhan o sioe adloniant serennog S4C, Jones Jones Jones i’w darlledu ar y Sianel ar 26 Tachwedd 2006.

Fe ddaeth degau o Jonesiaid enwog, gan gynnwys yr eicon pop Grace Jones, i’r llwyfan i ddifyrru cynulleidfa o Jonesiaid, gan guro’r record bresennol ar gyfer casgliad o bobl â’r un cyfenw, sef 583 o Norbergiaid yn Sweden.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae wedi bod yn noson wych lle gwelwyd torri record byd ac adloniant arbennig.  Roedd yn ddathliad rhyngwladol bythgofiadwy o deulu’r Jones.”

Ychwanegodd Amarilis Espinoza, a fynychodd y digwyddiad ar ran Recordiau Guinness y Byd i ddilysu’r record newydd, “Yn sicr, roedd yn achlysur unigryw ac rydym wrth ein bodd bod record byd wedi’i thorri wrth i gymaint o Jonesiaid ddod ynghyd.

“Mae heno’n nodi dechrau wythnos Recordiau Guinness y Byd ac mae’n wych rhoi cychwyn ar bethau gyda digwyddiad mor arbennig!”

Cynhyrchwyd y sioe gan Cwmni Da ar y cyd â Mr Producer, a’r ddau wrth y llyw ar y noson oedd Gethin Jones, cyflwynydd Blue Peter a Gwenllian Jones, a deithiodd o ben draw’r byd, 10,000 o filltiroedd i ffwrdd o’i chartref yn Sydney, Awstralia.

Yn ogystal â Grace Jones, a ganodd ei chaneuon enwocaf Pull up to the Bumper a Slave to the Rhythm ar y llwyfan, cafwyd perfformiadau gan y cantorion opera Y Fonesig Gwyneth Jones, Gwyn Hughes Jones a Leah-Marian Jones a’r perfformiwr West End John Owen Jones.  

Roedd digon o Jonesiaid eraill yno i fwynhau’r dathlu hefyd gan gynnwys Caryl Parry Jones, Heather Jones, Dai Jones, Elin Fflur Jones a theulu’r Jonesiaid o Pobol y Cwm.

Darllenwyd negeseuon arbennig gan Syr Tom Jones, Bryn Terfel Jones ac Aled Jones ar y noson.

Newyddion

Y Wasg