Newyddion a Digwyddiadau

Yr Enw Yw Jones...Grace Jones

20/10/2006

Bydd y gantores, model a seren y ffilm James Bond, A View To A Kill, Grace Jones yn ymuno â’r cannoedd o Jonsiaid fydd yn ymgynnull yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i geisio torri Record y Byd Guinness am y nifer fwyaf o bobl gyda’r un cyfenw i ymgasglu o dan yr un to.

Bydd camerâu S4C yn bresennol i weld y seren o Jamaica yn ymuno â nifer o
enwogion eraill sy’n rhannu ei chyfenw i berfformio ar lwyfan Canolfan y
Mileniwm ym Mae Caerdydd ar nos Wener, 3 Tachwedd.

Y bwriad yw torri’r record byd am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl sy’n
rhannu’r un cyfenw, a ddelir ar hyn o bryd gan 583 o bobl yn Sweden o’r enw Norberg.

Dyma ymweliad cyntaf Grace Jones â Chymru, a bydd hi’n perfformio caneuon oddi
ar ei halbym enwocaf,/ Slave To The Rhythm/.

Bydd seren y West End, John Owen Jones, a’r cantorion opera, Y Fonesig Gwyneth
Jones a Gwyn Hughes Jones, yn ymddangos ar y llwyfan gyda nifer o sêr S4C yn
cynnwys Caryl Parry Jones, Dai Jones ac Elin Fflur Jones.

Cyflwynydd/ //Blue Peter/ Gethin Jones a chyn-gyflwynwraig S4C Gwenllian Jones,
sydd nawr yn gweithio i Channel 7 yn Awstralia, fydd yn cyd-gyflwyno’r noson.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i rannu’r llwyfan gyda Jonsiaid enwog fel Grace
Jones a’r Fonesig Gwyneth Jones ac i dorri’r record byd yng Nghanolfan y
Mileniwm,” medd y cyflwynydd a’r cantor Dai Jones.

“Yn amlwg, mae arddull Grace Jones yn wahanol iawn i fy un i, ond dwi’n llawn
cyffro i’w gweld hi’n perfformio. Dw i’n fwy cyfarwydd â gwaith Y Fonesig
Gwyneth Jones, ac mae’r Jonsiaid yma’n adlewyrchu’r trawstoriad eang o bobl fydd
yn rhoi naws ryngwladol i’r noson.”

Mae tocynnau ar gyfer cyngerdd* **Jones Jones Jones* ar werth o Swyddfa Docynnau
Canolfan Mileniwm Cymru ar 08700 40 2000.  £15 yw’r pris, gyda gostyngiadau o
£10 a £5. Bydd yn rhaid i Jonsiaid y gynulleidfa ddod â phasport neu drwydded
yrru fel prawf ar y noson.  Nid yw enwau cyn priodi neu enwau â chysylltnod yn
cyfrif.

Newyddion

Y Wasg