Newyddion a Digwyddiadau

Gethin Jones Yn Cefnogi Ymgais I Dorri Record Y Byd

Gethin Jones
Gethin Jones

02/10/2006

Bydd Gethin Jones, cyflwynydd Blue Peter yn flaenllaw yn yr ymgais i greu Record Byd Guinness am lwyddo i gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl sy’n rhannu’r un cyfenw - Jones.

Bydd y cyflwynydd teledu o Gaerdydd a ddechreuodd ei yrfa yn cyflwyno ar Uned 5 yn amlwg ar y noson fawreddog hon  - Jones Jones Jones  - a fydd ‘w llwyfannu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Wener, 3 Tachwedd.

Yn ymuno â llu o Jonesiaid enwog eraill o fyd adloniant bydd cynulleidfa o hyd at 1,600 o Jonesiaid, gyda’r trefnwyr yn ffyddiog o guro'r record bresennol o 583 o Norbergiaid a ddaeth at ei gilydd yn Sweden.

Bydd y digwyddiad, a fydd y cael ei ffilmio gan S4C, yn cynnwys enwau megis y tenor enwog Gwyn Hughes Jones a seren y West End John Owen Jones. Mae’r gantores a’r ddiddanwraig Caryl Parry Jones, y bytholwyrdd Dai Jones a’r gantores boblogaidd Elin Fflur Jones hefyd ymysg y rhai a fydd yn diddanu ar y noson. A bydd y gantores ganu gwlad Tammy Jones a ddaeth i enwogrwydd gyntaf yn sgil y sioe dalent Opportunity Knocks  yn yr 1970au yn hedfan o Seland Newydd er mwyn cymryd rhan.

Meddai Gethin, 28, wrth gyfaddef mai ei arwr o blith clan y Jonesiaid yw’r chwaraewr rygbi i Gymru Cliff Jones, “Rwy’n falch iawn o fod yn Jones - mae’n adlewyrchiad o’m balchder yng ngwreiddiau fy nheulu yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.  Fe fynnodd fy chwaer gadw'r enw pan briododd hyd yn oed.

“Rwy’n caru’r cyfenw - mae yna kudos arbennig iddo ac rwy’n credu fod yr ymgais yma i dorri record y byd yn ffordd wych a denu sylw at Gymru. Dwi wrth fy modd fy mod yn gallu bod yn rhan o’r noson.”

Meddai Neville Hughes o gwmni cynhyrchu Cwmni Da sy’n gyfrifol am gynhyrchu'r noson ar y cyd gyda chwmni Mr Producer, “Mae gennym restr ffantastig o enwau fydd yn cymryd rhan ar y noson a bydd mwy o gyhoeddiadau i ddod. Dylai fod yn noson i’w chofio ac rydym yn ffyddiog y bydd Cymru yn gallu creu record newydd gyda’i Jonesiaid.”

Bydd swyddogion o’r Guinness World Record yn bresennol ar y noson er mwyn sicrhau bod y record newydd yn gwbl ddilys. Ar noson y gyngerdd bydd gofyn i bawb arddangos prawf gweledol mai Jones yw eu cyfenw – pasport, neu drwydded yrru.

Mae tocynnau ar gyfer Jones Jones Jones ar werth ar hyn o bryd a rhoddir blaenoriaeth i rai o’r cyfenw Jones. Gellir eu harchebu o swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 08700 40 2000 a phris tocyn yw £15, gyda gostyngiadau am  £10 and £5.  Am fwy o wybodaeth ewch i www.jones.tv

Newyddion

Y Wasg