Telerau ac Amodau

- Rydym yn gofyn i’r holl Jonesiaid ymgynnull yn y Ganolfan am 6 yr hwyr i fod yn rhan o’r ymgais i dorri Record y Byd (adloniant a lluniaeth ar gael) - Bydd y cyngerdd yn cychwyn am 7.30 yr hwyr
- Bydd holl weithgareddau’r digwyddiad yn cael eu ffilmio gan Cwmni Da ar gyfer S4C

Er mwyn torri Record Guinness y Byd am y CASGLIAD MWYA’ O’R UN CYFENW – ENW OLAF mae’n rhaid i bob Jones ddilyn y rheolau canlynol:

Rheolau’r Guinness World Records

1. Rhaid i bob ‘Jones’ ddangos prawf adnabyddiaeth gyda llun i ddau dyst annibynnol cyn cael mynediad i Theatr Donald Gordon. Gall hyn fod yn basbort, yn drwydded gyrru gyda llun, yn dystysgrif geni neu’n gerdyn adnabod (ID) cenedlaethol gyda llun

2. Mae’n rhaid i’r ‘Jones’ fod yn enw olaf. Tydi ‘Jones’ fel ail enw neu enw cyntaf ddim yn cyfrif tuag at y record. Tydi enw cyn priodi nac enwau wedi eu cyplysu ddim yn cyfrif.

3. Mae’n rhaid i bob Jones sy’n rhan o’r record fod ar leoliad ar yr un pryd er mwyn cael eu cyfrif

4. Bydd angen llungopi o brawf enw a llofnod pob person ar gyfer y GWR. Bydd llungopiwr ar gael ar y noson.

Newyddion

Y Wasg